• Gwynedd; Diwydiannau Creadigol a Digidol; Sioned Young, Mwydro
    Nov 22 2024
    Mae Mwydro yn gwmni Darlunio Digidol a sylfaenir gan Sioned Young o Gaernarfon yn 2019. Mae'r cwmni yn arbenigo mewn dylunio GIFs i gyfryngau cymdeithasol, ac mae casgliad GIFs Cymraeg Mwydro wedi eu gweld dros 250 miliwn o weithiau. Mae gwaith Mwydro hefyd yn cynnwys Gweithdai i Fusnesau, Comisiynau Dylunio, a dysgu plant a phobl hyd a lled Cymru i ddylunio GIFs iaith Gymraeg eu hunain.
    Show More Show Less
    31 mins
  • Gwynedd; Aled Jones, Cymen
    Nov 22 2024
    Mae cwmni cyfieithu Cymen wedi bod yn darparu gwasanaethau o’r safon uchaf ers dros 30 mlynedd ac rydyn ni’n un o gwmnïau cyfieithu mwyaf blaengar Cymru. Rydyn ni wedi ennill ein henw da oherwydd ansawdd a phrydlondeb ein gwaith. Mae gennym ni dîm ymroddedig o gyfieithwyr sydd ar dân eisiau gweld y Gymraeg yn cael ei defnyddio mewn bywyd bob dydd yng Nghymru.
    Show More Show Less
    46 mins
  • Sir Fôn; Tim Lloyd, Camu i'r Copa
    Nov 20 2024
    Cychwynnodd y cwmni fel hobi dau ffrind gyda blynyddoedd o brofiad mewn trefniadaeth chwaraeon yn 2011 ac yn cyflwyno a threfnu cannoedd o ddigwyddiadau chwaraeon ac awyr agored newydd sbon er mwynhad cannoedd o filoedd o gyfranogwyr gan ddefnyddio pobl, adnoddau a deunyddiau lleol lle bynnag bo hynny’n bosib.
    Show More Show Less
    16 mins
  • Gwynedd; Elusennau a'r Trydydd Sector; Esyllt Roberts, Yr Orsaf
    Nov 20 2024
    Mae’r Orsaf yn byrlymu gyda phobl yn ymgynnull i gymdeithasu, bwyta ac aros, cymryd rhan mewn gweithdai creadigol, datblygu sgiliau a llawer mwy. Lleolir Yr Orsaf ym mhentref Penygroes, Dyffryn Nantlle. Fe achubwyd yr hen adeilad gan griw o wirfoddolwyr yn 2016 a sefydlwyd pwyllgor Siop Griffiths Cyf. Nod y cwmni yw sicrhau bod yr adeilad hanesyddol hwn yn aros yn nwylo'r gymuned, er lles y gymuned.
    Show More Show Less
    11 mins
  • Gwynedd; Elusennau a'r Trydydd Sector; Llio Wyn, Yr Orsaf
    Nov 20 2024
    Mae’r Orsaf yn byrlymu gyda phobl yn ymgynnull i gymdeithasu, bwyta ac aros, cymryd rhan mewn gweithdai creadigol, datblygu sgiliau a llawer mwy. Lleolir Yr Orsaf ym mhentref Penygroes, Dyffryn Nantlle. Fe achubwyd yr hen adeilad gan griw o wirfoddolwyr yn 2016 a sefydlwyd pwyllgor Siop Griffiths Cyf. Nod y cwmni yw sicrhau bod yr adeilad hanesyddol hwn yn aros yn nwylo'r gymuned, er lles y gymuned.
    Show More Show Less
    18 mins
  • Sir Gâr; Laura Evans, Rural Advisor
    Nov 20 2024
    Wedi ei sefydlu yn 2021, mae Rural Advisor yn dîm arbenigol o ymgynghorwyr, syrfewyr siartredig a chynghorwyr, sy’n arbenigo mewn darparu cyngor i fusnesau gwledig. Maent yn gweithio ar y cyd i gynnig yr atebion a'r cyngor gorau i unigolion a’u busnesau. Lleolir y tîm o’u cartrefi ar draws Cymru a Swydd Henffordd yn Lloegr.
    Show More Show Less
    15 mins
  • Sir Gâr; Diwydiannau Creadigol a Digidol; Elen Davies, BBC Cymru
    Nov 20 2024
    Straeon newydd dorri, chwaraeon, teledu, radio a llawer mwy. Mae'r BBC yn rhoi gwybodaeth, yn addysgu ac yn cynnig adloniant - lle bynnag yr ydych chi, beth bynnag yw eich oedran.
    Show More Show Less
    22 mins
  • Sir Gâr; Caitlin Jones; Decus Research
    Nov 20 2024
    Sefydlwyd Decus Research Ltd. yn 2003 ac mae'n darparu gwasanaethau profi labordy cynhwysfawr a chymorth ymgynghori gwyddonol. Mae'r ystod o wasanaethau a'n tîm o arbenigwyr yn ehangu'n barhaus, gan feithrin partneriaethau cryf a dibynadwy gyda'n cleientiaid ac o ganlyniad mae llawer o'r gwaith yn deillio o fusnesau’n dychwelyd tro ar ôl tro. Mae’r staff yn cefnogi cleientiaid ledled y DU ac yn hapus i gynnal profion cydymffurfio rheolaidd neu helpu gyda dadansoddiad pwrpasol a chymhleth unwaith yn unig.
    Show More Show Less
    29 mins