Lleisiau Lleol

By: Llwyddo'n Lleol 2050
  • Summary

  • Yng nghwmni Ffion Emyr, mae'r podlediad yma yn dathlu lleisiau lleol a llwyddiant lleol yn ardal ARFOR! Gyda chefnogaeth gan Raglen ARFOR ac wedi’i hysbrydoli gan y prosiect Llwyddo’n Lleol, rydyn ni yma i ddangos bod cyfleoedd cyffrous a dyfodol bywiog yn aros amdanoch chi – yma yng ngorllewin Cymru. Yn ystod y gyfres, byddwn yn cwrdd â phobl ysbrydoledig sy’n profi bod ffynnu’n bosib heb adael cartref. O entrepreneuriaid i arloeswyr, mae ganddyn nhw i gyd stori i’w rhannu – ac mae’n fraint cael bod yma i’w hadrodd.
    Show More Show Less
Episodes
  • Rhedeg Busnes yn ARFOR
    Jan 24 2025

    Yn y bennod yma, rydyn ni’n edrych ar sut beth yw rhedeg busnes yn ardal ARFOR a’r gefnogaeth sydd ar gael i entrepreneuriaid lleol.

    Yn ymuno gyda ni mae dau westai ysbrydoledig: Daniel Grant, sylfaenydd Pen Wiwar, brand dillad cynaliadwy sy’n dathlu harddwch Cymru, a Tomos Owen, cyd-sylfaenydd Pelly, platfform pwerus sy’n galluogi clybiau pêl-droed i wneud penderfyniadau doethach a chyflymach. Mae’r ddau wedi elwa o gefnogaeth Llwyddo’n Lleol i ddatblygu eu syniadau ac adeiladu busnesau llwyddiannus yn ein hardal wledig.

    Gyda chefnogaeth gan Raglen ARFOR, bydd ein sgwrs yn trafod sut y dechreuodd eu taith, y ffordd maen nhw’n defnyddio eu busnesau i gysylltu â’u cymunedau, a’r rôl y mae Llwyddo’n Lleol wedi’i chwarae yn eu llwyddiant. Byddwn hefyd yn ystyried eu gweledigaethau ar gyfer y dyfodol a’r hyn sy’n gwneud ARFOR yn lle arbennig i lansio a thyfu busnes.

    Os ydych chi’n chwilio am ysbrydoliaeth neu eisiau gwybod mwy am botensial ein hardaloedd gwledig, rydych chi yn y lle iawn.

    Show More Show Less
    19 mins

What listeners say about Lleisiau Lleol

Average customer ratings

Reviews - Please select the tabs below to change the source of reviews.