Siarad Siop efo Mari a Meilir

By: Mari Beard and Meilir Rhys Williams
  • Summary

  • Podlediad sgyrsiol, arobryn // Award-winning, light entertainment podcast. British Podcast Award winner 2023

    Meilir Rhys Williams 2021
    Show More Show Less
Episodes
  • Pennod 21 - NADOLIG LLAWEN
    Dec 16 2024

    Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda gwsmeriaid annwyl y siop. Mae hi di bod yn flwyddyn anhygoel o drafod, sgwrsio, hel straeon a mwydro a da ni mor ddiolchgar i chi gyd am wrando. Peidiwch a phoeni - nid ffarwel yw hwn, dim ond nodyn o werthfawrogiad wrth gyflwyno pennod olaf y gyfres eleni i chi. Ond mae ganddom ni newyddion cyffrosu i'w rannu gyda chi - felly i mewn i chi i'r siop ar unwaith!

    Show More Show Less
    52 mins
  • Pennod 20
    Nov 28 2024

    Sori, fedrwch chi ddim eistedd fama...Da ni'n dal y gwagle i eiriau 'Defying Gravity'. Yndi, ma Wiza-mania wedi cyrraedd Siarad Siop, ond peidiwch a phoeni os nad ydych chi wedi gwylio'r ffilm eto, does yna ddim spoilers yn y bennod. Mae Mari a Meilir hefyd yn cofio at bawb sydd wedi eu heffeithio gan storm Bert, yn trafod sengl newydd Cabarela, Daf James a BAFTA, Bluey Cymraeg a llawer mwy...! Dewch i mewn i gysgodi a mwynhewch.

    Show More Show Less
    1 hr and 17 mins
  • Pennod 19
    Nov 21 2024

    Ydyn ni'n cael dweud y gair eto.... MAE DOLIG AR EI FFORDD ac mae Mari a Meilir wedi dechrau edrych ymlaen yn barod. Yn y bennod hon, mae'r ddau yn trafod hoff anrhegion Nadolig, hoff siocled yr Ŵyl, aliens yr UDA, y mass exodus o Twitter gynt, cadarnhau enw swyddogol Parc Cenedlaethol Eryri a'r Wyddfa, clwb nos Heaven yn Llundain, heb anghofio'r eira! Dewch i mewn o'r oerfel a mwynhewch.

    Show More Show Less
    1 hr and 18 mins

What listeners say about Siarad Siop efo Mari a Meilir

Average customer ratings

Reviews - Please select the tabs below to change the source of reviews.